|
|||||||
Y Cerfwyr - Erbyn hyn, mae galw am Lwyau Caru Paul Curtis ledled y byd |
|||||||
|
Pwyswch yma i weld Casgliad llawn Cadwyn Cyf o Lwyau Caru Wedi clywed am ddiddordeb Paul mewn cerfio a dylunio mewn pren aeth Ceris Williams, un o'i gyfeillion ag ef i ymweld â phrif-grefftwr enwog o'r enw Gwyndaf Breeze yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ger Caerdydd. Dysgodd Gwyndaf i Paul sut i wneud llwy garu a soniodd wrtho am hanes y llwy trwy roi iddo ddarnau o wahanol brennau caled. Gydag un o'r darnau pren yma gywnaeth Paul ei Lwy Garu gyntaf a rhoddodd hi i Ceris: roedd hynny ym 1983. Gwnaeth Paul lawer o lwyau serch wedi hyn ac ym 1985 roedd ei ddyluniau mor boblogaidd, penderfynodd gychwyn busnes bach yn gwneud Llwyau Caru. Noddwyd ef gan Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, a dyna sut y bu'n ennill ei fara caws fyth oddiar hynny. Heddiw mae galw mawr am lwyau Paul ym mhedwar ban y byd a chaiff llawer eu hallforio i Siapan, yr Unol Daleithiau a'r Almaen. Pan mae Paul yn gwneud llwy, y peth cyntaf a wna yw dewis y pren. Yna mae'n ei dorri i faint y medrir ei drin yn hawdd. Yn nesaf mae'n amlinellu cynllun y llwy ar y pren ac yna'n torri'r ffurf sylfaenol allan. Unwaith mae'r llwy wedi ei cherfio caiff ei rhwbio dair gwaith gan wahanol raddau o bapur gwydr a'i sglenio ddwy waith â chwyr gwenyn. Mae'n ffordd drylwyr o orffen Llwy Garu. Hon yw'r unig ffordd o sicrhau gorffeniad llyfn fel sidan i safon mae'r Llwy Garu Gymreig yn ei haeddu. |
|||||||
Cadwyn Cyf, Dolwerdd, Llanfihangel ar Arth, Cymru, 01559 384378, archebion@cadwyn.com |
|||||||