|
|||||||
Yr Hanes a'r Traddodiad - Byddai gwyr yn eu cerfio
a'u cyflwyno i'w cariadon |
|||||||
|
Pwyswch yma i weld ein Casgliad llawn o Lwyau Caru Arddangosir rhai o'r Llwyau Caru cynnar yn yr Amgueddfa Werin yng Nghaerdydd. Mae yno un, yn wir, a wnaed ym 1667.Dros y blynyddoedd, wrth i'r Llwyau Caru ddod yn fwy cain ac addurnol, daethant yn bethau i'w casglu. Mae gwraig ym Merthyr Tudful sydd yn berchen ar gasgliad o dros bedwar cant o lwyau. Wrth i'r llwyau dyfu'n fwy cain byddai'r cerfwyr yn dangos eu medrusrwydd trwy gerfio gwahanol symbolau yn y pren.Roedd i bob un o'r symbolau yma ei ystyr ei hun, er enghraffit, golygai cadwyn awydd cwpwl i fod gyda'i gilydd yn dragywydd, golygai diamwnt gyfoeth, golygai croes ffydd, dangosai blodyn serch, ayb. Heddiw, yn ogystal a bod yn rhodd i berson annwyl neu'n gofrodd o ymweliad â Chymru, rhoddir llwyau serch ar achlysuron arbennig fel priodas, penblwydd priodas, penblwydd, dyweddiad, genedigaeth, bedydd, dathlu cartref newydd, anrheg ffolant ac ar Wyl Santes Dwynwen ac yn y blaen. |
|||||||
Cadwyn Cyf, Dolwerdd, Llanfihangel ar Arth, Cymru, 01559 384378, archebion@cadwyn.com |
|||||||