|
Y coed a ddefnyddir i gerfio ein casgliad o Lwyau Caru fel arfer yw pren y bisgwydden (palalwyfen/gwaglwyfen/eurwernen/llwyfanen fanw) o Sir Fynwy, de Cymru. Mae'r pren yn olau mewn lliw ac yn unffurf iawn o ran cymeriad. Mae'n oleuach ac yn haws i'w gerfio na phren collen Ffrengig neu dderw, gydag ychydig iawn o raen, a dwysedd o 560kg fesul metr ciwbig. Mae'n bren poblogaidd iawn ar gyfer cerfio cymhleth, ac yn ffefryn gan ein cerfiwr Paul Curtis.
Pan mae Paul yn
gwneud llwy, y peth cyntaf a wna yw dewis y pren. Yna mae'n ei dorri
i faint y medrir ei drin yn hawdd. Yn nesaf mae'n amlinellu cynllun
y llwy ar y pren ac yna'n torri'r ffurf sylfaenol allan.
Unwaith mae'r
llwy wedi ei cherfio caiff ei rhwbio dair gwaith gan wahanol raddau
o bapur gwydr a'i sglenio ddwy waith â chwyr gwenyn. Mae'n ffordd drylwyr
o orffen Llwy Garu. Hon yw'r unig ffordd o sicrhau
gorffeniad llyfn fel sidan i safon mae'r Llwy Garu Gymreig yn ei
haeddu.
|