Bu llawer o drafod ynglŷn ag arwyddocâd y symbolau gwahanol a ddefnyddir wrth gerfio llwyau caru. Roedd llawer o'r cerfwyr ifanc yn swil ac yn amharod i ddangos eu hemosiynau, a byddai hyn yn ymgais i gyfleu eu gwir deimladau drwy ddefnyddio symbolau amrywiol. Dros y canrifoedd, mae llawer mwy o symbolau wedi cael eu hychwanegu, ac wrth i'r llwyau caru ddod yn fwy cymhleth ac addurnol, maent wedi dod yn eitemau i'w casglu.
Pwyswch yma i weld Casgliad llawn Cadwyn Cyf o Lwyau Caru. |
 |
|
CLOCH |
Priodas, neu dau gyda'i gilydd yn Gytun. |
 |
|
PEL MEWN CELL |
Cariad wedi ei ddal yn ddiogel, neu, nifer o blant. |
 |
|
ADAR |
Adar serch, neu gad i ni ymadael gyda'n gilydd. Mae'r storc yn cynrychioli genedigaeth newydd. |
 |
|
CADWYN |
Awydd i fod ynghyd am byth, neu nifer o blant. |
 |
|
CROES |
Ffydd yn lesu Grist, neu, Awydd i fôd ynghyd yng Ngrist . |
 |
|
DIAMWNT |
Cyfoeth. |
 |
|
CALON |
Serch. |
 |
|
PEDOL |
Lwc dda. |
 |
|
ALLWEDD / TWILL
CLO |
Mae fy nghartref yn gartref i tithau hefyd. |
 |
|
CLO |
Diogelwch, neu, mi ofalaf amdanat. |
 |
|
CWLWM, NEU, CLYMWAITH
CELTAIDD. |
Cariad tragwyddol, neu, Gyda'n gilydd yn dragywydd. |
 |
|
BONYN DIRDRO |
Dau fywyd yn ymuno i fod yn un. |
 |
|
DRAIG |
Sumbol Cymru. |
|