News: Anrhegion Pumed Penblwydd Priodas

Article Date(s):05/04/2016
Classical 5th Wedding Anniversary Lovespoon - 018c

Mae pobl wedi bod yn rhoi anrhegion i ddathlu pen-blwyddi priodas ers canrifoedd, gyda'r achosion cynharaf a gofnodwyd yn dod o Ganol Ewrop. Erbyn hyn mae'n draddodiad i ddefnyddio deunydd gwahanol i ddathlu pob carreg filltir ym mywyd cwpl.

Mae rhoi rhodd draddodiadol o bren ar 5ed pen-blwydd eich priodas yn arwydd o gryfder y cwlwm. Mae pren yn gryf ac yn para'n hir. Ceir y cyfeiriad cynharaf o roi anrheg o bren wedi 5 mlynedd o briodas ar ddiwedd y 19eg ganrif, ond yng Nghymru mae Llwyau Caru o bren wedi cael eu rhoi ers canrifoedd i ddathlu pen-blwyddi priodas.

Byddai cariadon ifanc yn rhoi anrhegion o losin neu gacennau; ond byddent hefyd yn rhoi anrheg arbennig, mwy personol i wrthrych eu serch sef y Llwy Garu Gymreig. Gwelir rhai o'r llwyau caru cynharaf yn Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd, gyda un yn dyddio'n ôl i 1667.

Drwy'r we fyd-eang, gallwn gynnig i bawb ein anrhegion pumed pen-blwydd priodas unigryw a thraddodiadol. Mae gennym 4 cynllun penodol i ddathlu 5ed Pen-blwydd Priodas. Gall pob llwy gael ei losgi yn rhad ac am ddim, gyda'ch enwau a dyddiad y Pen-blwydd priodas. Pwyswch yma am fwy o fanylion

Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren